Hoffwn bwysleisio’r pwyntiau canlynol:

 

Mae goblygiadau economaidd ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer siaradwyr y Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith yn peri gofid. Ymysg eraill, gallasai Brexit:

 

•        danseilio darpariaeth rhaglenni a phrosiectau yng Nghymru sy’n allweddol er mwyn creu gweithlu medrus dwyieithog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned a’r byd busnes; ac

•        effeithio ar sectorau economi sy’n bwysig i siaradwyr y Gymraeg ac sy’n cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith i raddau helaeth.

 

Mae’n gwbl allweddol nad yw Brexit yn tanseilio’r ymdrech i greu rhagor o siaradwyr y Gymraeg na’r defnydd a wneir ohoni.

 

Croesawaf ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i ddiogelu ardaloedd gwledig lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf rhag unrhyw effeithiau niweidiol Brexit ar y sector amaeth. Er hynny, wrth i’r broses o ymadael â’r UE fynd yn ei flaen credaf ei bod yn hanfodol fod ei effaith ar y Gymraeg yn derbyn sylw priodol ym mhob agwedd o waith y Llywodraeth.

 

Yn hynny o beth, dadleuaf y dylid adnabod hyd a lled effaith economaidd Brexit ar y Gymraeg mewn cysylltiad â sectorau economi eraill, megis sector diwydiannau creadigol ac addysg ôl-16, yn ogystal â rhaglenni a phrosiectau penodol sydd â photensial i blethu buddion economaidd a ieithyddol. Yn dilyn hynny, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn cynllunio ar frys er mwyn lliniaru’r effeithiau niweidiol ar y Gymraeg a’i defnyddwyr.

 

1.           Cyd-destun yr ymateb hwn

 

Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio’r

 

Gymraeg. Wrth wneud hynny bydd y Comisiynydd yn ceisio cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a thrwy gyfleoedd eraill. Yn ogystal, bydd yn rhoi sylw i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a’r dyletswyddau statudol i ddefnyddio’r Gymraeg drwy osod safonau. 

 

Mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd, sef: 

•        na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru a 

•        dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. 

 

Un o amcanion strategol y Comisiynydd yw dylanwadu ar yr ystyriaeth a roddir i’r

 

Gymraeg mewn datblygiadau polisi. Darperir sylwadau yn unol â’r cylch gorchwyl hwn gan weithredu fel eiriolwr annibynnol ar ran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae’r ymagwedd hon yn cael ei harddel er mwyn osgoi unrhyw gyfaddawd posibl ar swyddogaethau’r Comisiynydd ym maes rheoleiddio, a phe byddai’r Comisiynydd yn dymuno adolygu’n ffurfiol berfformiad cyrff unigol yn unol â darpariaethau’r Mesur.

Yn unol â hynny, cynigir isod sylwadau mewn perthynas â chylch gorchwyl yr ymchwiliad.

 

2.           Effaith economaidd Brexit ar y Gymraeg – rhaglenni a gweithgareddau penodol

 

Mae’n deg dweud nad yw hi’n glir ar hyn o bryd beth fydd effaith Brexit ar economi Cymru. Er hynny, gellir tynnu sylw at sawl agwedd o’r economi sy’n debygol o gael eu heffeithio gan Brexit a sydd hefyd yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar siaradwyr y Gymraeg.

 

Ar un llaw, gellir tynnu sylw at rôl cyllid Ewropeaidd wrth gefnogi rhaglenni a gweithgareddau penodol sydd â photensial i blethu buddion economaidd a ieithyddol.

 

Mae hyn yn cynnwys rhaglenni hyfforddiant sy’n cyfrannu at greu gweithlu medrus dwyieithog; a phrosiectau sy’n cefnogi defnydd y Gymraeg yn y gymuned a’r byd busnes gan fanteisio ar yr un pryd ar yr iaith fel ased economaidd.

 

Un enghraifft yw rhaglen ‘Sgiliau ar gyfer yr Economi Ddigidol’, sef menter gwerth £4.38 miliwn a gyflwynwyd rhwng 2011 a 2015 dan nawdd ariannol Cronfa Gymdeithasol

 

Ewrop i gynnig hyfforddiant yn y maes creadigol er mwyn hybu diwydiant cystadleuol yng Nghymru.  Gosododd y prosiect darged o gyfranogiad o 20 y cant gan siaradwyr Cymraeg.  Yn ôl gwerthusiad interim cyflawnwyd yn dda yn erbyn y targed hwnnw rhwng 2011 a 2013. Mae hyn yn bwysig achos dengys ymchwil fod galw clir am siaradwyr y Gymraeg yn y sector diwydiannau creadigol,  yn enwedig mewn is-sectorau megis radio, cyfryngau rhyngweithiol, hysbysebu, ffilm ac animeiddio.  

 

Enghraifft arall yw cynllun ‘Llwybrau i’r Brig’ Urdd Gobaith Cymru oedd yn weithredol rhwng 2009 a 2013 dan nawdd ariannol Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Nod y cynllun oedd rhoi cyfleoedd i bobl ifanc i feithrin sgiliau cysylltiedig â byd gwaith, cynorthwyo eu datblygiad personol a chymdeithasol, a helpu iddynt ddatblygu drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymunedau lleol. Yn ôl gwerthusiad y rhaglen, llwyddwyd i weithio gyda 7,293 o bobl ifanc 11–19 oed; rhoi cymwysterau i 2,056 ohonynt; a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ôl erthygl yn y wasg mis Gorffennaf 2016, derbyniodd yr Urdd £4 miliwn rhwng 2009 a 2013 o arian Ewropeaidd tuag at ‘Lwybrau'r Brig’ a gweithgareddau eraill. Dywed Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd, yn yr un erthygl mai ei phryder mwyaf yw y bydd pobl ifanc a phlant Cymru yn colli’r cyfleoedd pan ddaw arian Ewrop i ben. 

 

Ceir hefyd enghreifftiau o sefydliadau yng Nghymru denu’r grantiau Ewropeaidd er mwyn cefnogi defnydd y Gymraeg yn y gymuned a’r byd busnes gan fanteisio ar yr un pryd ar yr iaith fel ased economaidd. Er enghraifft, llwydodd Menter Iaith Conwy i ddenu grant o £85,000 i greu meithrinfa gyfrwng Gymraeg yng Nghyffordd Llandudno.   Agorwyd y feithrinfa’n swyddogol ym mis Chwefror 2016.  Ymddengys erbyn Gorffennaf

 

2016 bod y feithrinfa yn cynnig gwasanaeth i 30 o blant ac yn cyflogi naw o weithwyr. 

 

Yn ddiweddarach, llwyddodd Four Cymru i ddenu cefnogaeth ariannol o Gronfa

 

Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig i gyflwyno prosiect ‘Marchnad Lafur Cymraeg’ mewn partneriaeth gyda Mentrau Iaith Cymru. Nod y prosiect hwn yw ‘datblygu’r Gymraeg fel catalydd economaidd fyddai’n gyfrwng i ddatblygu ac adfywio y Gymru Wledig’.   

 

3.       Effaith economaidd Brexit ar y Gymraeg – effaith ar yr economi’n gyffredinol 

Ar y llaw arall, gallasai Brexit gael effaith fwy cyffredinol ar y sectorau sy’n feysydd cyflogaeth bwysig i siaradwyr y Gymraeg ac sy’n cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith. Dadleuir yn gyffredinol fod cydgysylltiad rhwng economi a hyfywedd cymunedau Cymraeg eu hiaith.   Gwyddom o Gyfrifiad 2011 ac ymchwil pellach bod amaethyddiaeth, lletygarwch a gwasanaethau bwyd ymysg y sectorau sydd â niferoedd a chanrannau uchel o siaradwyr y Gymraeg.  Fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei gydnabod, dyma’r meysydd cyflogaeth sy’n cynnal cymunedau mewn ardaloedd gwledig lle mae canrannau a niferoedd o siaradwyr y Gymraeg yn draddodiadol uchel ond lle maent wedi gostwng dros y degawd diwethaf.16 

 

Mae cefnogaeth ariannol yr UE i’r sectorau hyn yn bellgyrhaeddol. Yn ogystal â chronfeydd megis Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a Chronfeydd Strwythurol yr UE, ceir rhaglenni sy’n darparu cymorth yn benodol i gymunedau gwledig. Mae'r rhain yn cynnwys taliadau o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin, sef cynllun cymorthdaliadau o £200-£274 miliwn y flwyddyn i ffermwyr a thirfeddianwyr Cymru.  Ceir hefyd gymorth ariannol trwy Raglen Datblygu Gwledig, sy’n darparu ‘£957 miliwn i gefnogi busnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig’.  

 

Er ni wyddys ar hyn o bryd beth fydd strwythur a maint y cymorth i’r sector yn dilyn ymadael â’r UE, mae goblygiadau posibl yn peri gofid. Dadleuodd Llywodraeth Cymru y gallasai sector ffermio a bwyd Cymru wynebu ‘bygythiad uniongyrchol’ os bydd unrhyw rwystr yn codi sy’n atal busnesau Cymreig rhag cael mynediad at y Farchnad Sengl.19 Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i Bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi, mae 92 y cant o allforion y sector yn mynd i’r UE.  Clywodd y Pwyllgor am bwysigrwydd diwylliannol y sector amaethyddiaeth, yn enwedig fel cadarnle'r Gymraeg, ac effaith ‘ddinistriol’ bosibl Brexit ar gymunedau gwledig sy’n economaidd fregus.  

 

Eto i gyd, ceir sectorau economi eraill sy’n debygol o gael eu heffeithio, gydag oblygiadau deublyg i siaradwyr y Gymraeg a’r economi leol. Er enghraifft, comisiynodd S4C a’r BBC ddrama lwyddiannus ‘Y Gwyll’ gyda chefnogaeth ariannol cronfa Ewropeaidd ‘EU's MEDIA programme’ ac ‘Ewrop Creadigol’ yn diweddarach.  Canfu ymchwil cwmni Arad y cyfrannodd ffilmio cyfres gyntaf y ddrama yng Ngheredigion £1 miliwn at yr economi leol. Er bod Fiction Factory, y cwmni a gynhyrchodd ‘Y Gwyll’, yn seiliedig ym Mae Caerdydd, gwyddom fod S4C yn comisiynu cynnwys cyfrwng Cymraeg gan nifer helaeth o gwmnïoedd annibynnol eraill ar draws Cymru. Gwyddom hefyd o adroddiad blynyddol S4C 2014/15 y cafodd 42 y cant o fuddsoddiad y sianel ei ddosrannu i Ogledd a Gorllewin Cymru, sy’n ardaloedd sydd o dan anfantais economaidd. Gellir dadlau y bydd Brexit yn dylanwadu ar gyfleoedd S4C ac eraill yn y sector i fanteisio ar gyfleoedd i ddenu cefnogaeth ariannol, a thrwy hynny hefyd ar eu heffaith ar y Gymraeg a’r economi.

 

Dylid hefyd dynnu sylw at oblygiadau posibl Brexit i ddarpariaeth sector addysg ôl-16. Yn ogystal â’u heffaith economaidd, mae’r sector yn ganolog i’r ymdrech i ddatblygu gweithlu medrus dwyieithog. Ar hyn o bryd mae sefydliadau yn y sector yn manteisio ar ffynonellau cyllido megis Horizon 2020 i gefnogi ymchwil ac arloesi; Erasmus+ i gefnogi cyfnewidfa myfyrwyr a staff gyda sefydliadau addysgol tramor; a’r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer rhaglenni hyfforddiant amrywiol. Yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig, mae prifysgolion Cymru yn manteisio ar tua £35 miliwn o arian Ewropeaidd tuag at ymchwil pob blwyddyn.  Yn ôl Colegau Cymru, disgwylir y bydd Cymru yn derbyn buddsoddiad o dros £740 miliwn rhwng 2014 a 2020 trwy Gronfeydd Strwythurol Ewrop, gyda £320 miliwn o’r cyfanswm hwn tuag at wella sgiliau’r gweithlu. Nododd Colegau Cymru hefyd y clustnodwyd dros 4.25 miliwn ewro i sector addysg bellach yng Nghymru tuag at gynllun Erasmus+ rhwng 2011 a 2015.  

 

Mae’n wir bod y defnydd o’r Gymraeg yn addysg ôl-16 yn parhau’n isel. Gellir tynnu sylw er enghraifft at ddefnydd isel yr iaith mewn rhaglenni prentisiaeth sydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o dan nawdd ariannol Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Er hynny, mae’n allweddol nad yw effaith ariannol Brexit yn tanseilio’r ymdrechion i wella’r sefyllfa bresennol; na’r cyfleoedd sy’n bodoli ar gyfer siaradwyr y Gymraeg yn y sector ar hyn o bryd. 

 

Mae goblygiadau economaidd ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer siaradwyr y Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith yn peri gofid. Mae’n gwbl allweddol nad yw Brexit yn tanseilio’r ymdrech i greu rhagor o siaradwyr y Gymraeg na’r defnydd a wneir ohoni. 

 

4.    Ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn

 

Yn y cyd-destun uchod, croesawaf ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i ddiogelu ardaloedd gwledig lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf rhag unrhyw effeithiau niweidiol Brexit ar y sector amaeth.  Er hynny, ni fu llawer o sylw i’r Gymraeg hyd yn hyn mewn trafodaethau am oblygiadau economaidd Brexit yn fwy cyffredinol – er enghraifft nid oedd sylw i’r Gymraeg yn nogfen y Llywodraeth ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ (2017). Wrth i’r broses o ymadael â’r UE fynd yn ei flaen credaf ei bod yn hanfodol fod ei effaith ar y Gymraeg yn derbyn sylw priodol ym mhob agwedd o waith y Llywodraeth. 

 

Yn hynny o beth, dadleuaf y dylid adnabod hyd a lled effaith economaidd Brexit ar y Gymraeg mewn cysylltiad â sectorau economi eraill, megis sector diwydiannau creadigol ac addysg ôl-16, yn ogystal â rhaglenni a phrosiectau penodol sydd â photensial i blethu buddion economaidd a ieithyddol. Yn dilyn hynny, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn cynllunio ar frys er mwyn lliniaru’r effeithiau niweidiol ar y Gymraeg a’i defnyddwyr.